11.12.12

Diwrnod braf arall

Dydd Mawrth
gan Mrs Evans

Bois bach! Am hwyl! Diwrnod braf a perffaith arall.












Yn y bore, cawson ni gwmni Oscar, Minty, Millie, Mary a’u ffrindiau. Y ceffylau, wrth gwrs! Ac yna, aethon ni ar y trampolin – ‘the sky’s the limit’!
Bwyton ni cyri a reis i ginio gyda pwdin lemwn hyfryd. Blasus iawn, mmmmmm!

Yn edrych ymlaen at y ceirt modur
Wehei! Am hwyl!




 
 


Prynhawn yma, mwynheuodd y plant gyffro a cyflymder ar y ceirt modur. A cawson ni lawer o sgrechian ar y gwibgartio. Aeth Mrs Ellis ar y gwibgartio hefyd – ond ble mae Mrs Ellis? (answers on a postcard to Yr Adran Gymraeg!)

Anhygoel!
Gwibgartio







 
 
Wedyn saethyddiaeth ac enillodd tim 2. Da iawn chi!
Saethyddiaeth

Enillwyr saethyddiaeth - hapus iawn!

Ces i amser anhygoel a dw i’n edrych ymlaen at yfory!

No comments:

Post a Comment